Rwyf wedi byw ym Mlaenau Ffestiniog ar hyd fy oes, ac wedi fy amgylchynu gan lechi erioed! Nid yn unig rwyf wedi gweithio gyda llechi Cymreig ar hyd fy ngyrfa, ond fel cwmni (ynghyd â'n cydgyfarwyddwr Kaz Bentham) rydym wedi ymdrechu i wthio ffiniau'r hyn sy'n bosibl, gan weithio gyda chynnyrch sy'n amlbwrpas ac yn hynod o wydn.
Rydyn ni'n gwneud llawer o waith treftadaeth, gan weithio ar lawer o adeiladau rhestredig, ond rydyn ni hefyd yn ceisio gwneud pethau nad ydyn nhw, o bosib wedi'u gwneud o'r blaen. Er enghraifft, fe wnaethon ni greu darnau o gelf lechi sydd i'w gweld yng nghanol tref Blaenau Ffestiniog (yn y llun), a hefyd ysgrifennu Tŷ Coch ar do llechi ym Mhorthdinllaen.
Mae fy nhref enedigol yn golygu llawer iawn i mi yn bersonol, gyda'i gymysgedd anhygoel o olygfeydd hardd a dramatig; gweddillion y diwydiant chwarela a'i lluniodd.
Rwy’n caru’r gymuned sydd yma, ac yn ymfalchïo mewn cymryd rhan, a rhoi rhywbeth yn ôl mewn amrywiol ffyrdd, sy’n cynnwys rhai pethau byddai ein cyn-dadau a oedd yn gweithio yn y chwareli wedi cymryd rhan ynddynt hefyd. Rwyf wedi bod yn hyfforddwr gyda thîm pêl-droed plant dan 10 oed, yn gynghorydd tref ac yn wirfoddolwr cymunedol – pethau sy’n fy nghlymu i'r gymuned hon am byth.
www.originalroofingcompany.co.uk
@ORoofingltd