Troseddau treftadaeth yw unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy'n niweidio asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau, henebion, parciau, gerddi a thirweddau. Gall hyn olygu dwyn, difrod troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all nid yn unig niweidio'r creiriau hanesyddol eu hunain ond hefyd a all amharu ar fwynhad a dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt.
Mae nifer o achosion wedi bod yn ddiweddar mewn mwy nag un gydran o'r Safle Treftadaeth y Byd, gan gynnwys fandaliaeth ym Mharc Gwledig Padarn, Llanberis:
Mae pwysigrwydd adrodd am drosedd treftadaeth yn ddeublyg. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn treftadaeth gyfoethog ein tirwedd llechi. Hefyd, mae adrodd am achosion gan ddefnyddio'r broses gywir yn gwella ansawdd data cofnodion sydd gan yr Heddlu.
Sut i adrodd am Drosedd Treftadaeth
Mewn argyfwng, os yw aelod o'r cyhoedd yn ymwybodol o drosedd treftadaeth sy'n cael ei chyflawni ar hyn o bryd, galwch yr Heddlu ar 999. I adrodd am drosedd treftadaeth sydd eisoes wedi digwydd, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru gan ddefnyddio 101 neu rhowch wybod am ddigwyddiad ar-lein: www.northwales.police.uk. Nodwch ei bod yn drosedd treftadaeth ymhob achos.
Rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 os hoffech adrodd am wybodaeth yn ddi-enw.
Ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys: ruralcrimeteam@northwales.police.uk.
Defnyddiwch yr hashnod (meta-data) #OpHeritageCymru wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gyfeirio at ddigwyddiadau.
Gwybodaeth Pellach
Cyngor Gwynedd: Cyngor Gwynedd yn annog y cyhoedd i helpu gwarchod treftadaeth leol
Cadw: Troseddau Treftadaeth | Cadw