Cychwynnodd Steffan, brodor o Bontypridd, y cwmni yn ei ‘gwt’ yng ngwaelod yr ardd ym mhentref y Groeslon ‘nol yn 2013. Daeth yr ysbrydoliaeth i gychwyn rhostio coffi o’i amser yn Medellin yng Ngholombia ‘nol yn 2003, ble bu’n byw yn nghymdogaeth o’r enw El Poblado. Gair Sbaeneg ydyw golygai ‘lle i fyw’ neu ‘gymuned’. Pan ddychwelodd i Gymru i gychwyn ei fenter roedd enw ei gyn-gartref yn gweddu yn berffaith i ethos ei gwmni ifanc. Gyda hyn mewn cof, tra’n dylunio’r brand, nid oedd unrhyw emblem gwell i gynrychioli cymuned Dyffryn Nantlle na chwt lechen tu ôl i grawiau yng nghysgod y mynyddoedd.
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi darganfod ei draed mewn busnes yn ogystal â croesawu Sion i’r cwmni yn 2016, tyfodd y busnes yn rhy fawr i’r cwt yng ngwaelod yr ardd. Daethom ar draws unedau’r hen barics y chwarelwyr, yng nghesail twmpathau llechi pentref Nantlle, ac yma yr ydym ni o hyd yn rhostio coffi arbenigedd i gaffis gogledd Cymru. Digwydd bod cartref genedigol fy taid Sion a llinach o chwarelwyr wrth cil drws ein gweithle. Mae’r cysylltiad yma yn gwneud i ni allu ymfalchïo o gyfrannu mymryn i hanes diwydiant y fro ysblennydd hwn.
Mae cam nesaf y cwmni yn enghraifft arall rhywbeth sy’n ymdebygu ragluniaeth, oherwydd ein bwriad yw dilyn taith llechi’r dyffryn o Nantlle i’r Cei Llechi yng Nghaernarfon. Rydym yn gobeithio agor siop goffi yno gyn gynted a bydd y datblygiad newydd yn cael ei gwblhau y flwyddyn nesaf. Yno gobeithiwn gael y cyfle i gyflwyno coffi o bedwar ban byd i ymwelwyr i’r dref, fydd yn cerdded drwy borthladd lechi hanesyddol ar ei newydd wedd.