Rwyf wedi bod yn gweithio mewn caws dros 20 o flynyddoedd. Roeddwn eisiau datblygu cynnyrch gwahanol ar gyfer Hufenda De Arfon, felly 4 mlynedd yn ôl fe wnaethom ni ddod fyny hefo’r syniad o storio ac aeddfedu rysáit cheddar unigryw mewn ceudyllau dan ddaear.
Er bod y techneg aeddfediad yma wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen, hwn oedd y tro cyntaf iddo gael ei ddefnyddio mewn chwarel lechi yng Nghymru. Mae storio ac aeddfedu cheddar 500 o droedfeddi dan ddaear mewn ceudyllau am isafswm o 3 mis yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd wedi arwain at gaws cheddar gyda cysondeb hufennog a dyfnder blas yr ydwyf i’n hapus dros ben gyda.