Rydw i bod â diddordeb brwd yn nhirwedd unigryw dyffryn Nantlle ers nifer o flynyddoedd ac wedi cerdded llawer yn yr ardal. Wrth glywed bwriad Llechi Cymru i ymgeisio am Statws Treftadaeth Y Byd, cymerais y cyfle i ddiogelu arian i greu corff o waith fel ymateb i’r safle. Mae hyn wedi diweddu mewn nifer o berfformiadiadau teithiau sain gyda Tim Shaw yn ogystal â’r greadigaeth o’r ffilm Adlais.
Mae’r teithiau sain a’r ffilm yn archwilio sain amgylchynol, sain cudd a chyfoes y diwydiant llechi, yn ogystal â’r potensial sonig o’r tirwedd arbennig yma. Fe fydd y ffilm Adlais yn cael ei gyhoeddi yn fuan ac rwy’n edrych ymlaen i’w ddangos yn lleol, ac hefyd yn gobeithio trefnu mwy o deithiau sain yn y flwyddyn newydd.