Sefydlwyd Gwaith Llechi Inigo Jones ym 1861 i wneuthuriad llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion. Heddiw, mae’r cwmni yn defnyddio'r un un defnydd crai sef Llechen Cymraeg i gynhyrchu eitemau pensaernïol, coffadwriaethol, eitemau gardd a chrefftau.
Mae'r rhain yn cynnwys eitemau fel cerrig aelwyd, ‘copings’, platiau coffa, deial haul, baddonau adar, clociau, a matiau bwrdd. Mae Platiau Gwybodaeth ac Enwau Tai yn cael eu hysgythru i archeb ac yn cael eu cyflenwi ledled Prydain a dramor.
Mae’r cwmni bellach yn Atyniad Ymwelwyr hefyd sydd yn cynnig Taith hynan-dywys o’r gweithdai, arddangosfeydd daeareg, hanesyddol, caligraffeg ac ysgythru; lle rhoddir cipolwg ardderchog i mewn i’r diwydiant Llechi yng Nghymru. Ar y safle, mae Siop y cwmni yn gwerthu eu cynnyrch unigryw i’r ardd a’r cartref, ynghyd a chrefftau Cymraeg eraill. Gelli’r darganfod mwy am y Gwaith Llechi ar eu gwefan, lle mae posib archebu eu nwyddau arbennig i’w danfon rhywle yn y byd.
Am fwy o wybodaeth;
01286 830242