Tyfais i fyny tafliad carreg i ffwrdd oddi wrth tomeni llechi Dinorwig. Yn gwrando ar atgofion teulu yn son am oes brysur y Chwarel a chwilota drwy hen offer gweithio llechen fy nhaid; mae o wastad wedi bod yn destun difyr i mi. Dwi’n berson celfyddydol ac mae llechen yn ysbrydoliaeth erioed. Daeth yn bwysig iawn i mi pan roeddwn yn astudio ‘Three Dimensional Design’ yn y brifysgol, lle datblygais gynnyrch o’i amgylch: Cynnyrch gweini i’w defnyddio bob dydd, sy'n amlygu traddodiadau ein treftadaeth arbennig. Dwi’n falch ofnadwy i fod yn gweithio’n Inigo Jones bellach fel swyddog twristiaeth. O weithio yma, dwi ‘di dysgu cymaint mwy am y defnydd crai 'ma sydd ‘di bod yn fy amgylchynu erioed. Mae fy swydd yn caniatau i mi rannu gwybodaeth a newyddion hefo’r cyhoedd, tra hefyd caniatau i mi fod yn greadigol, yn creu cynnyrch o’r deunydd gorau yn y byd dan arweiniad crefftwyr medrus iawn.
Inigo Jones